Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales
Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee
Hynt y gwaith gan Lywodraeth Cymru wrth ddatblygu Cwricwlwm newydd Cymru | Welsh Government's progress in developing the new Curriculum for Wales
CR 35
Ymateb gan: Ymgyrch Hanes Cymru
Response from: History of Wales Campaign
Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu Cwricwlwm newydd Cymru
Rhagymadrodd
Dymuna Ymgyrch Hanes Cymru ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i’r hyn y mae Llywodraeth Cymru’n ei wneud i ddatblygu’r cwricwlwm newydd.
Byddwn yn canolbwyntio ar y modd y mae’r llywodraeth wedi delio â’r angen i’r profiad a’r persbectif Cymreig fod yn rhan integredig a chanolog o’r cwricwlwm newydd, gan roi sylw penodol i hanes.
Pe byddai’r Pwyllgor yn derbyn tystiolaeth lafar, byddem yn croesawu’r cyfle i wneud hynny.
Cefndir
1. Canfyddiad yr adroddiad Y Cwricwlwm Cymreig, stori a hanes Cymru yn 2013 oedd fod hanes Cymru naill ai’n ymylol neu’n cael ei anwybyddu mewn llawer iawn o ysgolion. ‘Profiad y tasglu’, meddai’r adroddiad, ‘yw bod nifer o ddysgwyr yn ysgolion Cymru yn dysgu mwy am hanes Lloegr nac am hanes eu bro a’u gwlad eu hunain.’
2. Barn Ymgyrch Hanes Cymru, ar sail gwybodaeth a gyflwynwyd gan athrawon, disgyblion a myfyrwyr, rhieni ac eraill sydd â chysylltiad agos ag ysgolion, yn ogystal â thystiolaeth gyhoeddus gyffredinol, yw nad oes unrhyw newid arwyddocaol er 2013. Mae diffyg sylw i hanes Cymru yn parhau’n nodwedd amlwg ac alaethus o’r ddarpariaeth addysgol ledled Cymru.
3. Gwnaed chwe argymhelliad gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Y Cwricwlwm Cymreig, stori a hanes Cymru (1). Cafodd pob un ohonynt eu derbyn gan Lywodraeth Cymru.
Dyfodol Llwyddiannus
4. Cyn gweithredu ar yr argymhellion hyn, penodwyd yr Athro Donaldson i baratoi adroddiad cynhwysfawr ar addysg yng Nghymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw, Dyfodol Llwyddiannus, yn Chwefror 2015.
5. Er bod Dyfodol Llwyddiannus yn nodi y dylai’r cwricwlwm fod ‘wedi ei wreiddio yng ngwerthoedd a diwylliant Cymru’, nis ymhelaethir yng nghorff yr adroddiad ar sut mae cyflawni hynny. Mae’n cyfyngu’r sylw a roddir i’r dimensiwn Cymreig i iaith a diwylliant yn unig. Nid oes unrhyw ddiffiniad o’r dimensiwn Cymreig yng nghyd-destun y cwricwlwm cyfan. Ni chyfeirir ato, ac nid oes unrhyw ymdrech i gyflwyno enghreifftiau, mewn cyswllt traws-gwricwlaidd. Ac ni chyfeirir o gwbl at gyfraniad allweddol hanes.
6. Ni ellir osgoi’r casgliad mai arwynebol a chwbl annigonol yw’r sylw a roddir yn Dyfodol Llwyddiannus i’r persbectif Cymreig. Rhaid cytuno â barn Dr Elin Jones: “anodd teimlo’n hyderus y bydd dimensiwn Cymreig ystyrlon yn greiddiol i unrhyw Gwricwlwm i Gymru yn y dyfodol a seilir ar yr Adroddiad hwn.” (2)
Cwricwlwm i Gymru, Cwricwlwm am Oes
7. Cyhoeddwyd Cwricwlwm i Gymru, Cwricwlwm am Oes yn Hydref 2015. Prin iawn, iawn yw’r cyfeiriadau at bersbectif Cymreig. Ni roddir arweiniad ystyrlon i’r Ysgolion Arloesi a phartneriaid eraill sydd, ers hynny, wrthi’n datblygu’r cwricwlwm newydd. Nid yw ambell ddatganiad byr y dylai’r cwricwlwm hwnnw gynnwys dimensiwn Cymreig yn ddigonol.
8. Mae argymhelliad 2 o Y Cwricwlwm Cymreig, stori a hanes Cymru yn datgan y “dylai datblygwyr y cwricwlwm newydd gydweithio’n agos gyda gweithgorau o arbenigwyr ymhob pwnc ac o bob sector addysg, er cytuno ar ddiffiniadau cliriach a manylach o’r perspectif Cymreig”. Nid oes, yn Cwricwlwm i Gymru, Cwricwlwm am Oes nac yn natganiadau a diweddariadau Llywodraeth Cymru ers hynny, dystiolaeth fod hyn yn digwydd. Mae lle i ofni, felly, nad yw’r persbectif Cymreig yn “fan cychwyn datblygu’r cwricwlwm newydd”.
9. Mae argymhelliad 3 yn datgan y “dylid datblygu meini prawf i gynorthwyo athrawon ac eraill i integreiddio’r persbectif Cymreig i bynciau’r cwricwlwm mewn ffordd ystyrlon”. Eto, nid oes tystiolaeth fod hyn wedi digwydd.
10. Yn Rhagfyr 2017, cyhoeddwyd y datganiadau ‘Beth sy’n bwysig?’ gan y Llywodraeth. Nid oes cyfeiriad at bersbectif Cymreig.
11. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ddogfen Diweddariad ar y cwricwlwm – datblygiadau hyd at Mai 2018 ym mis Gorffennaf 2018. Ni cheir ond un cyfeiriad byr ac arwynebol at y dimensiwn Cymreig.
Sylwadau Ymgyrch Hanes Cymru
12. Ar sail hyn oll, rydym yn bryderus iawn na fydd y cwricwlwm newydd wedi ei wreiddio’n gadarn yng ngwerthoedd a diwylliant Cymru.
13. Yng nghyd-destun hanes, rhaid ystyried y realiti hanesyddol a chyfredol o ddiffyg statws a diffyg sylw i hanes Cymru. Mae nifer sylweddol o athrawon hanes wedi eu haddysgu dan drefn felly ac mae tuedd gref iddynt ganolbwyntio, fel athrawon eu hunain, ar yr hyn sy’n gyfarwydd iddynt. Mae nifer hefyd wedi eu haddysgu y tu allan i Gymru; mae’n rhesymol tybio na fyddai gan y mwyafrif ohonynt hwy lawer o amgyffrediad o hanes Cymru.
14. Mae diffyg adnoddau aml-gyfryngol a chyfoes eu hapêl – yn Gymraeg a Saesneg – yn ffactor bwysig arall sy’n gwneud hanes Cymru, yng ngolwg llawer o athrawon, yn llai apelgar a rhwydd i’w gyflwyno. Ar y llaw arall, mae dewis helaeth o adnoddau wedi eu cynhyrchu ar gyfer y farchnad addysgol yn Lloegr.
15. Ni welwn fod arweiniad digon clir wedi ei roi i’r Ysgolion Arloesi a’r partneriaid eraill gan Dyfodol Llwyddiannus a Cwricwlwm i Gymru, Cwricwlwm am Oes, na chwaith gan ddatganiadau a chyhoeddiadau Llywodraeth Cymru wrth i’r broses o ddatblygu’r cwricwlwm fynd rhagddi, i wrth-weithio’r dylanwadau’n sy’n milwrio yn erbyn rhoi lle canolog a chytbwys i hanes Cymru.
16. Dymunwn nodi, er mwyn osgoi unrhyw gam-ddehongliad o’n safbwynt, nad ydym yn argymell canolbwyntio’n llwyr ar hanes Cymru. Byddai hynny yr un mor annerbyniol ac annheg â disgyblion a myfyrwyr Cymru â’r drefn bresennol sy’n caniatáu i nifer sylweddol beidio derbyn fawr ddim gwybodaeth am hanes Cymru.
17. Tra na fyddem o reidrwydd yn anghytuno â’r dymuniad i “roi digon o gymorth ac ymreolaeth . . . i ysgolion a chlystyrau gynllunio eu cwricwlwm eu hunain” (3), dylai hyn fod yn hyblygrwydd oddi mewn i gyd-destun cwricwlwm sydd wedi ei ffurfio gyda’r profiad a’r persbectif Cymreig yn ganolog iddo.
18. Mae gennym bryder am y defnydd cyson o ‘ddimensiwn Cymreig’. Gellid dehongli hynny fel yr angen i ychwanegu blas neu arlliw Cymreig fel rhyw atodiad i gwricwlwm fyddai fel arall yn anwybyddu’r profiad Cymreig. Mae’r cyfieithiad Saesneg, “ a Welsh dimension” yn fwy agored fyth i’w gamddehongli.
Crynhoad
19. Croesawn yn fawr yr ymgynghoriad hwn. Mae gan y Pwyllgor hwn rôl allweddol yn craffu ar y modd y mae’r cwricwlwm newydd yn cael ei ddatblygu.
20. Mae angen atebion clir a chynhwysfawr gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg ar sut mae’r llywodraeth yn cyflawni chwe argymhelliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen.
21. Dylid sicrhau fod hanes Cymru yn rhan mor naturiol, canolog ac integredig o’r cwricwlwm fel nad oes angen ystyried ‘dimensiwn Cymreig’ fel atodiad iddo.
22. Mae angen rhaglen genedlaethol o gynghori ac hyfforddiant i sicrhau fod athrawon hanes yn hyderus ac yn wybodus yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd.
23. Mae angen cynllun cenedlaethol wedi ei ariannu’n ddigonol i gynhyrchu adnoddau yn y Gymraeg ac yn Saesneg fydd yn cwrdd â gofynion y cwricwlwm newydd.
24. Cynigia’r broses hon o ddatblygu cwricwlwm a fydd – yn sicr o ran ei strwythur – yn unigryw i Gymru, gyfle arbennig iawn i sicrhau y bydd ystyried Cymru fel gwlad a chenedl yn fan cychwyn ac yn sylfaen i’r holl Feysydd Dysgu a Phrofiad. Mae’n gyfle rhy bwysig i’w golli.
(1) Argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen: Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru
1. Dylai’r fersiwn nesaf o’r cwricwlwm cenedlaethol i Gymru gymryd fel man cychwyn syniadau a delfrydau’r Cwricwlwm Cymreig presennol, gan adeiladu arnynt yn hytrach na’u trin fel atodiad. Dylai fod ganddo ddimensiwn Cymreig a pherspectif rhyngwladol.
2. Dylai datblygwyr y cwricwlwm newydd gydweithio’n agos gyda gweithgorau o arbenigwyr ymhob pwnc ac o bob sector addysg, er cytuno ar ddiffiniadau cliriach a manylach o’r perspectif Cymreig yn y pwnc hwnnw. Dyma fyddai man cychwyn datblygu’r cwricwlwm newydd.
3. Dylid datblygu meini prawf i gynorthwyo athrawon ac eraill i integreiddio’r persbectif Cymreig i bynciau’r cwricwlwm mewn ffordd ystyrlon.
4. Dylid datblygu a mewnosod dull mwy effeithiol o gasglu a rhannu enghreifftiau o arfer da cyfredol mewn datblygu’r Cwricwlwm Cymreig, a hynny ar draws Cymru.
5. Bydd angen buddsoddiad sylweddol mewn hyfforddiant mewn swydd ar gyfer pob athro/athrawes ymhob pwnc, i drefniadau sefydlu athrawon newydd ac i adnoddau ar-lein ac ystafell ddosbarth.
6. Dylai fod yn orfodol i bob gymhwyster a gynigir yng Nghymru adlewyrchu persbectif Cymreig lle mae hynny’n berthnasol.
(2) Datganiad i’r wasg, Medi 2015. Dr Elin Jones oedd cadeirydd y grŵp a luniodd adroddiad Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru.
(3) Diweddariad ar y Cwricwlwm, Gorffennaf 2018
Eryl Owain
Cyd-lynydd Ymgyrch Hanes Cymru
Rhagfyr 2018